P-05-737– Achubwch ein bws.

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Patricia Threadgill ar ôl casglu 60 llofnod.

Geiriad y ddeiseb

Newydd ddod i ddeall heddiw bod y bws rydw i’n ei ddefnyddio’n rheolaidd o Gilfach Goch i Bontypridd yn diflannu. Ym mis Ionawr 2016 dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi ymrwymo i wella ansawdd gwasanaethau bws lleol a’u gwneud yn fwy hygyrch. Mae pobl hŷn, pobl dlotach a phobl ag anableddau yng Ngilfach Goch sy’n defnyddio’r bws hwn, a gall wneud y gwahaniaeth rhwng teithio o le i le a theimlo’n gaeth. Felly achubwch y 150 i BONTYPRIDD !!!!

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Ogwr

·         Gorllewin De Cymru